Cynnydd cyson ym mhresenoldeb disgyblion y sir
Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn cyfrif wrth feithrin arferion dysgu cryf, cefnogi lles a pharatoi plant a phobl ifanc ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o nodi cynnydd cyson ym mhresenoldeb disgyblion bob blwyddyn yn dilyn effaith andwyol COVID-19 ar ffigurau cenedlaethol.
Yn 2024-2025, roedd canran y presenoldeb ymhlith disgyblion oed cynradd yn 93.3%, sef yr ail uchaf yng Nghymru; a’r ganran ymhlith disgyblion oed uwchradd yn 90%, sef y pumed uchaf yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Hoffwn ddiolch yn fawr i’r holl ddisgyblion, rhieni, gofalwyr a staff yr ysgolion a’r Awdurdod Lleol am yr ymdrechion parhaus i sicrhau bod presenoldeb yn ein hysgolion yn parhau'n gyson. Mae’r ymrwymiad hwn yn ein helpu i gynnal lefel gyson o bresenoldeb ar draws ein hysgolion. Rydym yn cydnabod bod sicrhau bod plant yn mynychu'r ysgol bob dydd yn gofyn am ymroddiad, anogaeth a phartneriaeth cryf rhwng teuluoedd, ysgolion a swyddogion yr Awdurdod Lleol. Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn bwysig, a thrwy gydweithio gallwn adeiladu ar y cynnydd hwn i sicrhau bod pob plentyn yn elwa'n llawn o'u haddysg. Drwy helpu eich plentyn i fynychu'n rheolaidd ac yn brydlon, rydych chi'n rhoi'r cyfle gorau iddynt lwyddo yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.”
I gael rhagor o wybodaeth am bresenoldeb mewn ysgolion, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion: Presenoldeb
12/01/2026