Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhian Owen

Rhian Owen

Rheolwr Tîm

rhian.owen@ceredigion.gov.uk 

 

Fi yw Rheolwr Tîm y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yng Ngheredigion. Mae'r Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i gyflawni'r prosiect Cymunedau am Waith a Mwy. O fewn fy rôl rwy'n gweithio'n agos gyda fy nhîm a phartneriaid eraill i sicrhau ein bod yn cynnig pecyn cymorth pwrpasol i drigolion Ceredigion sydd am ailymuno â'r farchnad lafur.

Bues i'n gweithio am sawl blwyddyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau cyn dychwelyd i addysg uwch a chael gradd mewn Addysg. Ar ôl graddio, cefais swydd fel Cydlynydd NEET ar gyfer Ceredigion lle roeddwn i'n canolbwyntio ar helpu pobl ifanc gydag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Er bod fy swydd wedi symud ymlaen o weithio'n uniongyrchol gyda'n cyfranogwyr, rwy'n dal i deimlo'n falch iawn ohonyn nhw i gyd pan fyddan nhw'n cyflawni ac yn cynnal cyflogaeth.

Emma Daniel

Emma Daniel

Cydlynydd - Cyflogaeth a Hyfforddiant

emma.daniel@ceredigion.gov.uk 

 

Yn fy rôl fel Cydlynydd rwy'n darparu cymorth i'r rheolwr tîm a phartneriaid rhanbarthol gan gefnogi'r gwaith o baratoi, datblygu, monitro a gwerthuso'r prosiectau cyflogadwyedd yng Ngheredigion. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r tîm cyfan hefyd i fonitro perfformiad y prosiectau a sicrhau bod yr holl weithdrefnau ansawdd yn cael eu dilyn wrth gyflawni'r cymorth.

Mae fy nghefndir addysgol ym maes troseddeg, ynghyd â'm profiad o weithio'n uniongyrchol gydag unigolion agored i niwed, wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i mi o'r effaith gadarnhaol y gall nodau gyrfa a chyflogaeth gynaliadwy ei chael ar lesiant a rhagolygon bywyd unigolyn.

Gyda'r profiadau a'r ddealltwriaeth hyn, fy nod yw bod yn eiriolwr dros arferion gorau a darparu'r gwasanaethau gorau posibl i drigolion Ceredigion.

Catrin Davies

Catrin Davies

Swyddog Cyswllt Cyflogwyr/Lleoliad Gwaith

catrin.davies@ceredigion.gov.uk

07977509703

 

Rwy'n gweithio'n agos ac yn cysylltu â chyflogwyr lleol yng Ngheredigion gan ddarparu cymorth recriwtio yn ogystal â thrafod telerau a sicrhau cyfleoedd gwirfoddol neu gyflogaeth ar draws ystod eang o feysydd galwedigaethol. Rwy'n cynnig cymorth a chymhelliant i gyfranogwyr wrth iddynt chwilio am waith gan eu helpu i wneud cais am swyddi a mynychu cyfweliadau. Mae gen i dros 8 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector cyflogadwyedd. Fy hoff beth am fy rôl yw cwrdd â phobl newydd a'u helpu i gael cyflogaeth gynaliadwy.

Catherine Crees

Catherine Crees

Mentor Cymorth Cyflogadwyedd

catherine.crees3@ceredigion.gov.uk

07581049644

 

Fy rôl yn y tîm yw sicrhau profiad gwaith â thâl, treialon gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli a hyrwyddo cyfranogwyr cefnogi Cyflogadwyedd i gyflogwyr i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

Fy Nghefndir yw 26 mlynedd yn y diwydiant trin gwallt. Ymunais â Chyngor Sir Ceredigion yn y tîm cyllid a chaffael cyn symud i’r tîm cymorth Cyflogaeth.

Rhan orau'r rôl yw pan welwch ein cyfranogwr yn llwyddo mewn hyfforddiant ac o ganlyniad yn sicrhau cyflogaeth gynaliadwy, dyma hanfod ein gwasanaeth.

Delor Evans

Delor Evans

Mentor Cyflogaeth Gymunedol - Cymunedau am Waith a Mwy

delor.evans@ceredigion.gov.uk

07977514896

 

Rydw i wedi gweithio fel mentor i'r prosiect Cymunedau am Waith a Mwy am y pum mlynedd diwethaf. Mae gen i radd mewn Cynhwysiant Cymdeithasol, rhywbeth rwy'n troi ati'n ddyddiol yn fy rôl fel mentor cyflogaeth gymunedol. Rwy'n cael boddhad mawr o weld y bobl rwy'n eu cefnogi yn cael swydd, yn enwedig pobl sydd heb weithio erioed yn eu bywydau. Yn fy ngwaith bob dydd rwy'n mynd allan i gwrdd â chyfranogwyr newydd a'u helpu i mewn i waith trwy eu cynorthwyo gyda'u CV, ceisiadau am swyddi a chyfweliadau ffug. Mae pob diwrnod yn wahanol!

Misha Homayoun-Fekri

Misha Homayoun-Fekri

Mentor Cyflogaeth Gymunedol - Cymunedau am Waith a Mwy

misha.homayoun-fekri@ceredigion.gov.uk

07812487763

 

Mae fy rôl fel Mentor Cyflogaeth yn golygu gweithio'n agos gyda chi i'ch helpu i wireddu eich nodau, boed hynny'n gweithio ym maes manwerthu, neu gael lle ar gwrs a fydd yn eich galluogi i weithio yn y maes o'ch dewis. Byddwn yn mabwysiadu dull gweithio cam wrth gam a gallwch gysylltu â mi unrhyw bryd. Does byth cwestiwn gwirion!

Fy nghefndir yw gweithio un-i-un gyda phobl sy'n wynebu heriau wrth geisio cael hyd i waith. Gall yr heriau hyn fod yn unrhyw beth o rwystrau ariannol i anawsterau dysgu. Mae fy null gweithio fel mentor yn hamddenol ond gyda nodau realistig i'w cyrraedd gyda fy nghymorth i.

Fy hoff beth am fy swydd yw helpu rhywun i gael gwaith a mynd i mewn 6 mis yn ddiweddarach i'w gweld nhw yno yn hapus. Mae'n rhoi teimlad mawr o lwyddiant i mi weld fy nghyfranogwyr yn magu hyder!

Jasmin Bottone

Jasmin Bottone

Swyddog Cymorth Cyflogadwyedd

jasmin.bottone@ceredigion.gov.uk

07971952143

 

Mae bod yn Fentor Cymunedol yn rhoi cymaint i unigolion ac yn lleihau’r rhwystrau y gall unigolion eu hwynebu o ddydd i ddydd, h.y. gofal plant, teithio sy’n eu rhwystro rhag cyrraedd eu llawn botensial a dod o hyd i waith sy’n talu’n well. Rydym yn gweithio'n agos ochr yn ochr â nhw, ac yn cefnogi eu hanghenion unigol fesul achos.

Gyda chefndir yn y GIG mae gennyf brofiad o weithio gydag unigolion ifanc, a theuluoedd, a'u cefnogi yn eu llwybr gofal iechyd. Mae’r profiad hwn yn fuddiol i’r rôl Mentor Cymunedol gan ein bod yn gweithio'n agos gydag unigolion i sicrhau bod eu nodau yn cael eu cyflawni.

Rwy'n mwynhau cyfarfod ag unigolion newydd, a gwrando ar eu hanes, a'u cefndiroedd. Wrth oresgyn eu heriau a’u pryderon eu hunain, mae’n fuddiol tu hwnt allu dod o hyd i waith iddynt y byddant yn hapus ynddo.

Rachel Tuck

Rachel Tuck

Mentor Cyflogaeth Gymunedol - Cymunedau am Waith a Mwy

rachel.tuck@ceredigion.gov.uk

 

Rwy'n gweithio gyda Chymunedau am Waith a Mwy ac yn ceisio darparu rhaglen bwrpasol o gymorth i helpu i chwalu unrhyw rwystrau i gyflogaeth y gall pobl eu hwynebu. Mae fy nghefndir mewn Addysg a Gweinyddiaeth yn bennaf. Rydw i wedi gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11-18 oed am y 13 mlynedd a mwy diwethaf ond roeddwn i'n barod am her newydd. Rwy'n mwynhau fy rôl newydd yn helpu yn y gymuned gyda phobl o bob oed. Fy hoff beth am y rôl hon yw bod pob diwrnod yn wahanol ac rwy'n cael cwrdd â chymaint o bobl newydd o gefndiroedd amrywiol.

Louise Herridge

Mentor Cymorth Cyflogadwyedd

louise.herridge@ceredigion.gov.uk

Rwy'n gweithio fel Mentor Cyflogadwyedd o fewn y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd, rwyf wedi bod yn y rôl hon ers mis Tachwedd 2024. Rwy'n gweithio gyda Chyfranogwyr sydd â chefndir troseddol a rhai sydd ag anghenion cymhleth fel pryder, hunan-barch isel a hyder isel. Rwy'n eu helpu i oresgyn y rhwystrau hyn gyda hyfforddiant ar-lein a chyrsiau rydym yn eu darparu.

Bydd hyn yn eu helpu iddynt gael dechreuad newydd ac yn rhoi rhagolygon newydd iddynt er mwyn dyfu hyder i newid yr amgylchiadau yn eu bywyd.

Mae fy nghefndir mewn mentora yn bennaf yn brofiad byw ac roeddwn i'n fentor cyfoedion am ddwy flynedd a hanner gyda chyfranogwyr oedd yn gwella o gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl cyn fy rôl gyda'r Tîm Cymorth Cyflogadwyedd.

Rwy'n caru fy rôl fel mentor cyflogaeth gan fy mod yn gweld pa mor galed mae fy nghyfranogwyr yn gweithio i oresgyn eu rhwystrau a'u brwdfrydedd i ddysgu sgiliau newydd a masnachau newydd, a fydd yn arwain at gyflogaeth yn y pen draw.

Ammie Inman

Mentor Cymorth Cyflogadwyedd

ammie.inman@ceredigion.gov.uk

Mae fy rôl yn cynnwys cefnogi oedolion gyda rhwystrau cymhleth i ddod o hyd i gyflogaeth, cyfleoedd hyfforddi a gwaith gwirfoddol. Rwy'n caru sut mae pob diwrnod yn wahanol, ac rwy'n gallu cefnogi pob person yn seiliedig ar eu hanghenion unigol ac ar gyflymder sy'n addas iddynt.

Mae gen i radd mewn Rheoli Busnes sydd wedi fy ngalluogi i ddefnyddio y sgiliau wnes ddysgu yn y brif ysgol yn fy rôl bob dydd. Tra'n astudio yn y brifysgol, fe wnes i wirfoddoli fel mentor cyfoedion ac fe wnes i ddarganfod fy angerdd dros helpu eraill. Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau dilyn gyrfa lle gallwn wneud gwahaniaeth, mae bod yn Mentor Cymorth Cyflogadwyedd yn caniatáu i mi gyflawni hynny. Fy hoff ran o'r rôl yw helpu cyfranogwyr i sylweddoli eu potensial llawn a'u cefnogi i'w gyflawni.