Ceisiadau Cyfredol
Y math o gais:
Cais am adolygu trwydded - a.51
Hysbysir drwy hyn fod cais wedi’i wneud o dan adran 51 o Ddeddf Trwyddedu 2003 gan adran Trwyddedu Heddlu Ceredigion ar i Gyngor Sir CEREDIGION County Council adolygu’r drwydded mangre mewn perthynas â Y LLEW DU, 31 SGWAR ALBAN, ABERAERON, CEREDIGION, SA46 0AG
Sail yr adolygiad: Atal troseddu ac anhrefn, diogelu’r cyhoedd,
atal niwsans cyhoeddus, ac amddiffyn plant rhag niwed.
Sylwadau: Gall unrhyw awdurdod cyfrifol neu berson wneud sylwadau yn ysgrifenedig i’r Adran Drwyddedu, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA, neu drwy e-bostio publicprotection@ceredigion.gov.uk neu dros y ffôn: 01545 570 881
Y dyddiad pryd y dylid fod wedi derbyn sylwadau:
Hanner nos ar 30ain Medi 2026
Rhaid i’r sylwadau ymwneud ag un neu fwy o'r amcanion trwyddedu sef:
· atal troseddu ac anhrefn,
· diogelu’r cyhoedd,
· atal niwsans cyhoeddus, ac
· amddiffyn plant rhag niwed.
Mae’r cais am adolygiad yn ogystal â’r gofrestr ceisiadau trwyddedu ar gael i fwrw golwg arnynt yn swyddfeydd yr Awdurdod Trwyddedu yn y cyfeiriad uchod yn ystod oriau arferol y swyddfa.
Mae’n drosedd gwneud - yn fwriadol neu’n ddi-hid - ddatganiad anwir mewn cysylltiad â chais, ac o wneud hynny bydd person yn atebol i gael dirwy ddiderfyn os bydd yn cael euogfarn ddiannod.
Dyddiad: 2ail Medi 2026
Swyddog Awdurdodedig Cyngor Sir CEREDIGION
Y math o gais:
Cais am trwydded eiddo newydd - a.17
Enw'r ymgeisydd:
Sehar Ozcan
Cyfeiriad Post yr Eiddo:
Pizza Rominos, 1 Swgar Finch, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1BS
Ymhle y gellir gweld y cais:
Mae’r cais ar gael i’w archwilio ar gais a wneir i’r Adain Drwyddedu, Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd y Sir, Aberaeron, Ceredigion SA46 0AT, drwy e-bost: diogelucyhoedd@ceredigion.llyw.cymru neu ffonio: 01545 570881.
Dylai unrhyw awdurdod cyfrifol neu berson arall sy’n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r cais hwn wneud hynny’n ysgrifenedig i’r Adain Drwyddedu yn y cyfeiriad uchod neu drwy e-bost i diogelucyhoedd@ceredigion.llyw.cymru.
Y dyddiad pryd y dylid fod wedi derbyn sylwadau:
Hanner nos ar 25/09/2026
Bras fanylion am y gweithgareddau arfaethedig:
Lluniauth Hwyr Y Nos: Llun - Iau 23:00 - 02:00; Gwener - Sadwrn 23:00 - 03:00; Sul 23:00 - 02:00