Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynnydd mewn Prisiau Olew

Oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, mae prisiau olew yn ansicr ac mae llawer o bobl sy'n defnyddio olew i wresogi eu cartrefi yn ei chael hi'n anodd fforddio.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £3.8 miliwn i Lywodraeth Cymru i helpu aelwydydd yng Nghymru sy'n dibynnu ar olew gwresogi.

Mae 2 ffordd o gael cefnogaeth.

Cronfa Cymorth Dewisol

Mae gan Gymru eisoes gefnogaeth i bobl sydd oddi ar y grid ac sy'n cael trafferth gyda chostau tanwydd drwy'r Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn (DAF). Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y canlynol dros dro:

  • Cynyddu'r swm y gallwch ei gael am olew gwresogi i £750 y dyfarniad
  • Cynyddu pa mor aml y gallwch chi gael yr help hwn: ddwywaith mewn 12 mis, yn hytrach nag unwaith

Pwysig: Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais dangos does ganddyn nhw ddim arian arall, er enghraifft cynilion, a rhaid i bob cais ddod gan Bartner a Gymeradwywyd. Rhaid bod o leiaf 3 mis rhwng dyfarniadau.

Er mwyn cael help, rhaid eich bod:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol, er enghraifft eich bod wedi colli eich swydd, wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf - ac nad oes gennych unrhyw fodd arall o gael cymorth ariannol
  • yn profi argyfwng annisgwyl sy’n golygu nad oes gennych arian i brynu bwyd, nwy a/neu drydan, neu eitemau hanfodol eraill
  • mewn sefyllfa o argyfwng ac angen cefnogaeth ariannol ar unwaith
  • yn byw yng Nghymru
  • dros 16 oed (nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer y grant hwn)
  • heb unrhyw arian arall, er enghraifft cynilion

Partneriaid a Gymeradwywyd yng Ngheredigion:

Cyngor ar Bopeth Ceredigion

Wefan: Pris olew yn codi: beth i'w wneud?

Ffôn: 01239 621974  neu 01970 612817

Cymdeithas Gofal

Wefan: Cymdeithas Gofal - Gwasanaethau Digartrefedd a Chymorth

Ffôn: 0300 140025

Cyngor Sir Ceredigion (ar gyfer teuluoedd sy'n hysbys i'r tîm Rhianta a Theulu)

Wefan: Cymorth Rhianta a Teulu

Ffôn: 01545 570881

Cymdeithas Tai Barcud (ar gyfer tenantiaid Barcud)

Wefan: Cymdeithas Tai Barcud - Hafan

Ffôn: 0300 1113030

Grŵp Codi (Pobl yn flaenorol)

Wefan: Camfan Llanbedr Pont Steffan

Ffôn: 01570 421190

Cymorth i bobl ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor (weithiau'n cael ei alw'n Fudd-dal Treth y Cyngor)

Bydd pobl ar incwm isel sy'n defnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylif (LPG) yn gymwys i gael taliad un tro o £200 os ydynt ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hyn ar 31 Mawrth 2026. Mae awdurdodau lleol yn aros am fanylion llawn y Cynllun, a bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi pan fyddant ar gael.

Cymorth a chefnogaeth bellach

Angoir pobl sy'n poeni am arian neu gostau ynni i gysylltu â llinell gymorth "Hawlia dy Arian" AdviceLink Cymru.

Rhif Ffôn am ddim: 0800 7022020

Mae'r llinell cymorth ar gael rhwng 8yb a 7yh o ddydd Llun i ddydd Gwener a dydd Sadwrn 9yb a 1yh.

Gallant wirio a oes gennych hawl i fudd-daliadau, pensiynau, cymorth gyda chostau gofal, neu ostyngiadau treth y cyngor. Ers 2020, mae'r gwasanaeth hwn wedi helpu pobl i gael mynediad at dros £10.5 miliwn mewn cymorth.