Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant

Mae’n ofynnol gyfreithiol ar yr awdurdod lleol i gwblhau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) fel dyletswydd statudol o dan y Ddeddf Gofal Plant 2006.

Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yn well ddefnydd rhieni / gofalwyr o ofal plant, y cyflenwad o ofal plant yn y sir ac unrhyw ffactorau sy'n debygol o effeithio ar y galw am ofal plant. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i greu cynllun gweithredu ar gyfer Uned Gofal Plant Ceredigion a gweithredoedd ehangach y Cyngor ynghylch gofal plant.

Cynhelir Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant llawn, gan gynnwys ymgynghori â rhieni / gofalwyr, cyflogwyr, plant a phobl ifanc, darparwyr gofal plant a gweithwyr proffesiynol eraill, bob pum mlynedd. Gwneir diweddariad ar yr asesiad, gan edrych ar y cyflenwad a'r galw, bob blwyddyn.

Canllawiau Statudol Gofal Plant

Mae’r Canllawiau Statudol Gofal Plant yn esbonio'r hyn y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei wneud i gefnogi datblygiad darpariaeth gofal plant yn yr ardal leol er mwyn ei gwneud yn hyblyg, yn gynaliadwy ac yn ymatebol i anghenion y gymuned.

Gofal plant: canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU

Arolwg Rhieni / Gofalwyr (Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru)

Ar agor tan 31 Hydref 2026

Cwblhewch yr Arolwg Rhieni / Gofalwyr sydd ar gael ar ein tudalen ‘Ymgyrchoedd ar agor’ 

Arolwg i’r holl rieni a gofalwyr sy’n defnyddio gofal plant yng Nghymru

Mae Is-adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisiau deall anghenion gofal plant teuluoedd Cymru sydd â phlant rhwng 0 ac 17 oed.

Mae eich barn yn bwysig iawn i ni a hoffem wybod mwy am eich profiadau o ddefnyddio gwasanaethau cofrestredig (h.y. gwasanaethau sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) a gofal plant heb ei gofrestru (mae nanis, au pairs a rhai clybiau gweithgaredd/chwaraeon yn dod i’r categori hwn, er enghraifft). Bydd eich barn yn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru ac yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau gofal plant. Er hynny, ni all awdurdodau lleol warantu y bydd modd bodloni pob cais am ddarpariaeth gofal plant.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefannau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. 

Arolwg Cyflogwyr

Os ydych chi'n gyflogwr neu'n fusnes lleol, hoffem glywed eich barn ar sut mae materion gofal plant i rieni sy'n gweithio yn effeithio ar eich busnes.

Cwblhewch yr Arolwg Cyflogwyr sydd ar gael ar ein tudalen ‘Ymgyrchoedd ar agor’ 

Dan Ddeddf Gofal Plant 2006 mae’n ddyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP). Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol yng Nghymru “i sicrhau, hyd y bo’n rhesymol ymarferol, bod yna ofal plant digonol i gwrdd â gofynion rhieni yn eu hardal sydd angen gofal plant er mwyn hyfforddi, gweithio, neu baratoi ar gyfer gwaith”.

Cyflwynwyd drafft Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu Cyngor Sir Ceredigion ar ddydd Mercher, 3 Mawrth 2022, a cytunwyd fod yr adroddiad drafft yn mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus. Daeth hwn i ben ar 6 Mehefin 2022. Cymeradwywyd y ADGP diwygiedig gan y Cabinet ar 5 Gorffennaf 2022, a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi bylchau ac yn gwneud argymhellion a fydd, lle bo'n rhesymol ymarferol, yn diwallu anghenion rhieni fel y gall yr Awdurdod gyflawni'r ddyletswydd o ran digonolrwydd gofal plant fel y'i nodir yn y Ddeddf Gofal Plant.

 Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022-2027

Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn egluro ac yn ehangu ar rôl hanfodol Awdurdodau Lleol fel arweinwyr strategol wrth ddarparu gofal plant yn lleol. Mae’r Ddeddf Gofal Plant yn atgyfnerthu’r fframwaith y mae Awdurdodau Lleol eisoes yn gweithio o’i fewn – mewn partneriaeth â’r sectorau preifat, gwirfoddol, annibynnol, cymunedol ac a gynhelir – i lywio a diogelu gwasanaethau plant, ac mae’n canolbwyntio yn benodol ar ddarparu:

  • gofal plant digonol, cynaliadwy a hyblyg sy’n ymateb i anghenion rhieni;
  • gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, darpar rieni a’r rheini sydd â chyfrifoldeb rhieni neu ofal am blentyn, mewn perthynas â gofal plant.

I ddod o hyd i'r diffiniad o bob math o Ofal Plant sydd ar gael - cliciwch yma