Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Asesiadau Gofalwyr

Os ydych chi’n ofalwr, mae gennych hawl gyfreithiol i gael asesiad o anghenion gofalwr, ni waeth pa fath o ofal rydych chi’n ei ddarparu na pha mor aml rydych chi’n ei ddarparu.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiad o anghenion gofalwr, darllenwch ganllaw Carers UK ar gael asesiad yng Nghymru o fis Ebrill 2016:

Asesiadau - Canllaw ar gael Asesiad yng Nghymru o fis Ebrill 2016

Taflen Ffeithiau Gofalwyr: Paratoi ar gyfer Asesiad Anghenion Gofalwr

Paratoi ar gyfer dy Asesiad o Anghenion Gofalwr Ifanc

Ble fydd yr asesiad yn cael ei gynnal?

Gallwch chi gael asesiad dros y ffôn neu, pan fydd amgylchiadau’n caniatáu, yn eich cartref.

Pa mor hir fydd yr asesiad yn para a sut alla i baratoi ar ei gyfer?

Bydd hyn yn dibynnu ar anghenion y gofalwr a bydd yn amrywio o sefyllfa i sefyllfa. Weithiau, gall gymryd ychydig o oriau.

Beth fydd yn digwydd yn yr asesiad?

Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cyflawni’r asesiad o anghenion gofalwr gyda chi wyneb yn wyneb. Gall eich helpu i bennu meysydd lle mae angen cymorth arnoch chi a’ch helpu i ystyried y sefyllfa yn y tymor hir. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth, fel manylion grwpiau cymorth i ofalwyr a sut i gael cyngor am fudd-daliadau.

Beth fydd yn digwydd ar ôl yr asesiad?

Os oes modd i chi gael cymorth mewn meysydd a nodwyd yn yr asesiad, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i asiantaethau eraill a byddant yn cysylltu â chi.

Gofyn am Asesiad Anghenion Gofalwr

Os hoffech ofyn am Asesiad Anghenion Gofalwr, cysylltwch â Phorth Gofal gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ffôn

01545 574000

Cyfeiriad Post

Porth Gofal
Neuadd Cyngor Aberaeron
Penmorfa
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0PA

Oriau Agor

  • Dydd Llun i ddydd Iau: 08.45 - 17.00
  • Dydd Gwener: 08.45 - 16.30