Ceir Cefn Gwlad
Os nad ydych yn medru gwneud taith hanfodol oherwydd diffyg trafnidiaeth, efallai y bydd Ceir Cefn Gwlad Ceredigion yn gallu eich helpu.
Cynllun cludiant gwirfoddol yw Ceir Cefn Gwlad a gydlynir gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS). Cyngor Sir Ceredigion sy'n ei ariannu ac mae'r gwasanaeth yn cynnig trafnidiaeth i drigolion Ceredigion, beth bynnag yw eu hoedran, os nad oes ganddynt drafnidiaeth ar gyfer teithiau hanfodol. Bydd y tâl a godir yn dibynnu ar y milltiroedd a deithir. Nid yw Ceir Cefn Gwlad yn disodli'r gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus eraill a rhaid i'r gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad gysylltu â'r gwasanaethau hynny lle bynnag y bo modd.
Beth yw taith hanfodol?
Mae teithiau hanfodol yn cynnwys y canlynol:
- Ymweliadau â'r doctor, deintydd, ciropodydd, optegydd
- Ymweliadau â ffrindiau neu berthnasau sy'n sâl
- Cwrdd â gwasanaethau bysiau neu drenau
- Siopa hanfodol
- Casglu presgripsiynau
- Busnes personol pwysig (cyfreithiwr, cyfrifydd, ac ati.)
Rhagor o wybodaeth
Dylech nodi na chaiff yr un teithiwr ofyn am fwy nag un daith yr wythnos gyda'r gwasanaeth Ceir Gwledig oni bai bod argyfwng ac yr awdurdodir hynny gan Gydlynydd y Cynllun.
Manylion Cyswllt
Ar gyfer de'r sir, cysylltwch â Bob ar 07812485809. Ar gyfer gogledd y sir, cysylltwch â Kath ar 07890909768.
Am ragor o wybodaeth, ymholiadau am gymhwysedd, neu i archebu, cysylltwch â Bob neu Kath gan ddefnyddio'r manylion uchod.
Archebion a Ffioedd
Argymhellir archebu ymlaen llaw - ceisiwch roi o leiaf 5 diwrnod o rybudd.
Mae prisiau'n fforddiadwy; cysylltwch â Bob neu Kath am fanylion ffioedd wrth archebu.
Hygyrchedd
Nid yw’r ceir yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Rhaid i deithwyr allu cerdded o'r car i'r adeilad.