Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Archwilio Ceredigion

Mis Cerdded: Mai 2026. Teithiau cerdded tywysedig ar gael:

I ddathlu Mis Cerdded, rydym wedi llunio dwy daith gerdded dywysedig i'r cyhoedd ymuno a ni arnynt. Mae gwybodaeth am y llwybrau i'w gweld isod. Mae'r teithiau cerdded yn rhad ac am ddim i ymuno a nhw ond mae archebu'n hanfodol a gellir ei wneud hynny yma. Cyn archebu, darllenwch drwy'r wybodeth ganlynol: Ymwadiad Teithiau Cerdded Tywysedig.

 

Dydd Sul 24th Mai 10:00 - 13:00

Taith gerdded gylchol gymharol heriol, 3.4 milltir o hyd, yn cychwyn ac yn gorffen ym Mhontgarreg (ger Llangrannog). Mae'r llwybr hwn yn cynnig coetir, blodau gwyllt a golygfeydd o'r mor o bell. Gellir dod o hyd i fap o'r llwybr yma: Llwybr Pontgarreg.  Mae parcio ar gael wrth neuadd y pentref a dyma lle bydd y daith gerdded yn dechrau. What3Words: furniture.dentistry.rainfall

Dydd Mercher 27ain Mai 17:00 - 19:00 

Taith gerdded gylchol gymharol heriol, 3.3 milltir o hyd, yn cychwyn ac yn gorffen ym mhentref Ffwrnais ac yn cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws Aber Afon Dyfi. Gellir dod o hyd i fap o'r llwybr yma: Furnace Circular. Mae parcio ar gael ym maes parcio Ffwrnais Dyfi a dyma lle bydd y daith gerdded yn dechrau. What3Words: decide.enrolling.park